Surfers Against Sewage yng Nghymru

Darllen y dudalen hon yn Saesneg

O arfordiroedd eiconig i afonydd troellog, dylai ein dyfroedd fod yn lleoedd lle gall pobl a natur ffynnu. Ar hyn o bryd fodd bynnag, maent yn cael eu tagu gan lygredd carthffosiaeth, gwastraff plastig, a chemegau gwenwynig—y storm berffaith sy’n gwneud ein defnyddwyr dŵr yn sâl ac sy’n dinistrio ein hamgylchedd.

Mae etholiadau’r Senedd yn 2026 yn gyfle hanesyddol i droi’r llanw. Rydym wedi siarad â chymunedau, grwpiau llawr gwlad, a sefydliadau amgylcheddol ledled Cymru i’n helpu i ddatblygu maniffesto a all ddod â llygredd carthffosiaeth a phlastig i ben am byth. P’un a ydych chi’n syrffio, nofio, padlo, neu’n pryderu am warchod treftadaeth naturiol Cymru, dyma’r foment dyngedfennol i weithredu. Mae ein Maniffesto ar gyfer Cymru ar gael yma yn Gymraeg ac yn Saesneg.

I chi mae’r maniffesto hwn i’w ddefnyddio. Cychwynnwch sgyrsiau gyda chymunedau a busnesau lleol, ewch â’r mater i ymgeiswyr etholiadol a’u holi ynghylch yr hyn y bydd eu plaid yn ei wneud i gyflawni ein gofynion, a gadewch i ni wybod os gallwn eich cefnogi. Mae mwy o argymhellion ar gyfer ymgysylltu ag ASau yn y dyfodol yn ein pecyn cymorth isod hefyd.

Mae’r maniffesto hwn – a’n hymgyrchu dros 2026 – yn canolbwyntio ar dri gofyniad allweddol i Lywodraeth nesaf Cymru:

  • Amddiffyn iechyd y cyhoedd
  • Trawsnewid system ddŵr Cymru, a
  • Lleihau llygredd plastig a chreu economi gylchol

Mae’r atebion yn bodoli. Mae’r pŵer i’w rhoi ar waith yn nwylo llywodraeth nesaf Cymru, a phobl fel chi i’w dwyn i gyfrif.

Read the manifesto

Gyda chyhoeddi canlyniadau etholiad y Senedd 2026, mae gennym gynrychiolwyr newydd eu hethol yng Nghymru sy’n barod i glywed yr hyn y mae ar eu hetholwyr ei eisiau. Mae angen i ni godi ein lleisiau yn uwch nag erioed.

O ystyried bod disgwyl i’r rheoleiddiwr gael ei ad-drefnu yn ystod y flwyddyn nesaf a bod gennym aelodau newydd yn y Senedd, mae gennym gyfle prin i drwsio’r system ddŵr sydd wedi torri yng Nghymru. Dysgwch am yr hyn y mae canlyniadau’r etholiad yn ei olygu i ddyfroedd gwyllt Cymru a sut y gallwch chi weithredu.

Roedd llygredd carthion a phlastig yn destun pryder go iawn i gymunedau ar y glannau ledled Cymru yn yr etholiad hwn. Dyna pam ein bod wedi cynnal hystings ledled y wlad rhwng 12 a 16 Ebrill 2026, i roi cyfle i gymunedau lleol holi eu hymgeiswyr gwleidyddol am yr hyn y byddai eu pleidiau’n ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng carthion a phlastigau.

Buom hefyd ar daith hystings a wnaeth ymweld ag:

Darllenwch rai o’n blogiau sy’n canolbwyntio ar Gymru: