Dod o hyd i’ch cangen leol
Os hoffech gymryd rhan fwy yn eich mudiad llawr gwlad lleol, o lanhau traethau i ymgyrchoedd, gallwch gysylltu â ni neu ddod o hyd i’ch cynrychiolwyr lleol yma.
Darllen y dudalen hon yn Saesneg
O arfordiroedd eiconig i afonydd troellog, dylai ein dyfroedd fod yn lleoedd lle gall pobl a natur ffynnu. Ar hyn o bryd fodd bynnag, maent yn cael eu tagu gan lygredd carthffosiaeth, gwastraff plastig, a chemegau gwenwynig—y storm berffaith sy’n gwneud ein defnyddwyr dŵr yn sâl ac sy’n dinistrio ein hamgylchedd.
Mae etholiadau’r Senedd yn 2026 yn gyfle hanesyddol i droi’r llanw. Rydym wedi siarad â chymunedau, grwpiau llawr gwlad, a sefydliadau amgylcheddol ledled Cymru i’n helpu i ddatblygu maniffesto a all ddod â llygredd carthffosiaeth a phlastig i ben am byth. P’un a ydych chi’n syrffio, nofio, padlo, neu’n pryderu am warchod treftadaeth naturiol Cymru, dyma’r foment dyngedfennol i weithredu. Mae ein Maniffesto ar gyfer Cymru ar gael yma yn Gymraeg ac yn Saesneg.
I chi mae’r maniffesto hwn i’w ddefnyddio. Cychwynnwch sgyrsiau gyda chymunedau a busnesau lleol, ewch â’r mater i ymgeiswyr etholiadol a’u holi ynghylch yr hyn y bydd eu plaid yn ei wneud i gyflawni ein gofynion, a gadewch i ni wybod os gallwn eich cefnogi. Mae mwy o argymhellion ar gyfer ymgysylltu ag ASau yn y dyfodol yn ein pecyn cymorth isod hefyd.
Mae’r maniffesto hwn – a’n hymgyrchu dros 2026 – yn canolbwyntio ar dri gofyniad allweddol i Lywodraeth nesaf Cymru:
Mae’r atebion yn bodoli. Mae’r pŵer i’w rhoi ar waith yn nwylo llywodraeth nesaf Cymru, a phobl fel chi i’w dwyn i gyfrif.
Os hoffech gymryd rhan fwy yn eich mudiad llawr gwlad lleol, o lanhau traethau i ymgyrchoedd, gallwch gysylltu â ni neu ddod o hyd i’ch cynrychiolwyr lleol yma.
Yn y pecyn cymorth hwn, gallwch ddod o hyd i gamau ymarferol i'ch helpu i ddylanwadu ar eich AS ynghylch llygredd carthffosiaeth, neu ddefnyddio ein pecyn cymorth i'ch helpu i ddysgu sut i droi’ch AS yn hyrwyddwr dros ddŵr glân. Defnyddir carthffosiaeth fel yr enghraifft ar gyfer y llyfr gwaith, ond gellir cymhwyso'r hyn a ddysgwch yn y pecyn cymorth hwn i faterion iechyd cefnfor eraill hefyd.
Peidiwch â nofio mewn carthffosiaeth - brwydrwch yn ei herbyn. Lawrlwythwch yr ap Safer Seas & Rivers Service (SSRS) neu edrychwch ar ein map ar-lein am rybuddion amser real yn eich hoff fannau syrffio, nofio a phadlo. Arfogwch eich hun gyda'r ffeithiau i helpu i'ch cadw chi a'ch anwyliaid yn ddiogel.
Mae deall sut ac ym mhle mae pobl yn defnyddio'r dŵr, ynghyd â phwy sy’n mynd yn sâl, yn ein helpu i ymgyrchu i’ch gwarchod yn well. Dysgwch sut gall data yrru’r frwydr i warchod eich traeth, afon neu'ch llyn lleol. Mae ein Cronfa Ddata ar-lein yn offeryn pwerus i ymchwilio ymhellach, grymuso cymunedau ac ysgogi newid. Archwiliwch y straeon, yr ystadegau a'r gwirionedd syfrdanol.