“Does dim geiriau i ddweud y fath argraff dda a wnaeth y sefydliad arnaf, yr adnoddau a’r ymdrech yr oeddech chi i gyd yn ei wneud! Roeddech chi’n wych yn darllen anghenion y plant ac yn gwneud i’r sesiwn weithio o’u hamgylch. Cawsom ni i gyd amser arbennig ac fe ddysgom lawer!
Mae eich pecyn athrawon yn wych i’w ddefnyddio ac rwy’n ei ddefnyddio i gynllunio gwersi i ddyfnhau a mewnosod dysg y plant o’r sesiwn” – Emeline Goodall, Athrawes, Ysgol Veryan
Ysgol y Mor
"Mae pobl yn amddiffyn yr hyn a garant, ond carant yn unig yr hyn sy'n hysbys iddynt" - Jacques Cousteau
MAE YSGOL Y MÔR YN…
Mae Ysgol y Môr yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr o bob oed archwilio, ymchwilio, amddiffyn a MWYNHAU eu traethau. Wrth eu grymuso i gydnabod y bygythiadau sy’n wynebu EIN moroedd ac ymateb iddynt yn eu ffyrdd eu hunain.
O fioleg ryngweithiol yn y cynefinoedd arfordirol a’r ecosystemau bychain (a gyflwynir ar ffurf 3D anhygoel mewn pyllau cerrig a thraethlinau) i’r gwersi dinasyddiaeth syml, ond hanfodol ynghylch gwaith caled a chydweithredu mewn ymgyrchoedd glanhau traethau gwirfoddol, ein traethau’n llythrennol yw’r ystafell ddosbarth orau ar y ddaear.