Canllaw Gweithredu: Cael Eich AS i Siarad Allan

Read this page in English

Ni fydd y sgandal carthion yn cael ei datrys gan fesurau lleddf nac ymgyrchoedd PR – mae angen gweithredu gwleidyddol beiddgar. Mae gan ASau y pŵer i ddwyn cwmnïau dŵr i gyfrif, mynnu deddfau cryfach, a bwrw ymlaen gyda’r buddsoddiad y mae ein cymunedau a’n mannau glas yn ei daer angen. Dyna pam mae angen i ni eu cael ar ein hochr ni. 

Isod fe welwch rai camau ymarferol i’ch helpu i ddylanwadu ar eich AS ar fater llygredd carthion – ac os hoffech fynd gam ymhellach i ddeall y beth, y sut a’r pam o droi eich AS yn hyrwyddwr dros ddŵr glân, lawrlwythwch y canllaw gweithredu llawn i gael hyd yn oed mwy o awgrymiadau, strategaethau a gwybodaeth am y newidiadau rydym yn eu galw amdanynt. 

Lawrlwythiad PDF ar y ffordd!

Beth all ASau ei wneud? 

Mae ASau’n cael eu hethol i’ch cynrychioli chi yn San Steffan – ac mae hynny’n rhoi pŵer gwirioneddol iddynt i fynd i’r afael â’r sgandal carthion. Gallant herio cwmnïau dŵr a gweinidogion, mynnu deddfau cryfach, a phleidleisio o blaid newid. Yn lleol, gallant gefnogi ymgyrchoedd cymunedol, ysgrifennu at reoleiddwyr, a thynnu sylw’r cyfryngau at lygredd. Yn gryno: mae eich AS yn gweithio i chi – felly gadewch i ni sicrhau eu bod yn defnyddio eu llais i ymladd dros ddŵr glân. 

Dylanwadu ar Eich AS 

1. Gwnewch eich gwaith cartrefPwy yw eich AS a beth sy’n ei danio?

I ddarganfod yn gyflym pwy yw eich AS, ewch i They Work For You a nodwch eich cod post yn y bar chwilio. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi enw eich AS, i ba blaid y mae’n perthyn, ei fanylion cyswllt a pha etholaeth seneddol rydych yn byw ynddigwybodaeth ddefnyddiol iawn os hoffech gael trigolion eraill yn eich etholaeth i gymryd rhan yn eich ymgyrchu! 

Unwaith y byddwch yn gwybod pwy yw eich AS, gallwch fynd ychydig yn ddyfnach. Ar They Work For You, edrychwch ar ei gofnod pleidleisio a’r tab “interests” i weld pa faterion sy’n bwysig iddo. A yw’n canolbwyntio ar iechyd, yr amgylchedd, yr economi leol neu rywbeth arall? Mae ASau’n llawer mwy tebygol o weithredu os gallwch gysylltu llygredd carthion â rhywbeth maent eisoes yn ei flaenoriaethu. 

Gallwch hefyd weld eu blaenoriaethau mewn mannau eraill: eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, dyfyniadau yn y wasg leol, neu ddiweddariadau ar eu gwefan eu hunain. Yn aml mae’r rhain yn datgelu beth maen nhw eisiau cael eu gweld yn ei gefnogi yn y gymuned – ac yn rhoi cliwiau defnyddiol i chi am y ffordd orau i gael eu sylw. 

2. Cysylltu â’ch AS

Mae sawl ffordd i gysylltu ag eich AS – gallwch anfon e-bost, ffonio eu swyddfa, neu hyd yn oed anfon llythyr. Fodd bynnag, yn aml mae’n well gan ASau dderbyn e-byst. Gallwch ddod o hyd i holl fanylion cyswllt eich AS ar They Work For You 

Gallwch hefyd gwrdd â’ch AS mewn un o’i gymorthfeydd galw heibio lleol – ond cofiwch mai dim ond 10–15 munud fydd eich slot fel arfer, ac fe fydd angen archebu ymlaen llaw dros e-bost neu dros y ffôn. 

Angen man cychwyn? Defnyddiwch ein templed e-bost i gysylltu â’ch AS! 

Er y gallai fod yn demtasiwn llenwi eich neges gyntaf i’ch AS â manylion cymhleth a ffeithiau technegol, nid dyma’r ffordd orau bob tro i’w ddenu. Dechreuwch gyda’r hanfodion: 

  • Eich cod post – fel y gall eich AS a’i dîm wirio eich bod yn un o’i etholwyr. 
  • Pam rydych yn cysylltu – gosodwch y disgwyliad o’r cychwyn eich bod am drafod effaith llygredd carthion. 
  • Beth rydych eisiau i ddigwydd – os hoffech gwrdd â’ch AS, nodwch eich cais yn glir. Os hoffech gyfarfod hirach neu un ar-lein yn hytrach na wyneb yn wyneb, dywedwch hynny hefyd. 

 

Prif flaenoriaeth unrhyw AS yw ei etholaeth ei hun, felly canolbwyntiwch ar sut mae llygredd carthion yn effeithio ar bobl, natur a busnesau ar garreg eu drws. Pa bynnag ffordd rydych yn strwythuro eich neges, sicrhewch eich bod yn cwmpasu’r tri phwynt hyn: 

  • Chi – pwy ydych chi, sut mae llygredd carthion wedi effeithio arnoch chi’n bersonol, a’ch bod yn byw yn ei etholaeth. 
  • Eich cymuned – sut mae llygredd carthion yn effeithio ar bobl a busnesau’n lleol. 
  • Y mater – beth sy’n digwydd ar hyn o bryd sydd wedi’ch ysgogi i gysylltu. 

Awgrym gorau: gall straeon personol fod yn arbennig o rymus. Maent yn troi problemau damcaniaethol yn brofiadau dynol go iawn – gan ei gwneud yn llawer anoddach i AS droi llygad dall. 

3. Cyfarfod eich AS

Gall cyfarfod â’ch AS deimlo’n frawychus, ond does dim angen! Cofiwch, p’un a wnaethoch bleidleisio drosto ai peidio, mae’n ddyletswydd ar eich AS i’ch cynrychioli chi fel un o’i etholwyr. 

Boed y cyfarfod yn bersonol neu ar-lein, mae paratoi’n allweddol i greu argraff. Defnyddiwch eich profiadau eich hun – neu rai eich cymuned – i ddangos nad methiannau’r diwydiant dŵr yw rhywbeth pell neu ddamcaniaethol, ond broblemau gwirioneddol sy’n taro pobl, natur a busnesau yn etholaeth eich AS heddiw. 

Cefnogwch eich stori gyda ystadegau a ffeithiau i ddangos maint y broblem. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr – mae’r ap Safer Seas & Rivers Service (SSRS) a SAS Data HQ yn cynnwys yr holl ddata sydd ei angen arnoch, o ryddhau carthion i adroddiadau salwch lleol, i gryfhau eich achos. 

Pan fydd AS o dan bwysau mewn cyfarfod, gall geisio rheoli’r sgwrs. Y ffordd orau o osgoi hyn yw bod wedi paratoi’n drylwyr. Dylech grynhoi ac ehangu ar yr hyn a roesoch yn eich neges gyntaf iddo. 

Dyma enghraifft o sut i strwythuro eich achos i amlygu eich cysylltiad â’r broblem a dangos pam y dylai eich AS ofalu:

Cyflwyniad personol
E.g. “Rwy’n caru nofio gwyllt – mae’n un o’r pethau gorau am fyw yma, ac mae cymaint o’n cymuned yn teimlo’r un peth. 

Y broblem uniongyrchol
E.g. “Ond mae tywallt carthion yn ein man lleol yn golygu bod rhaid canslo digwyddiadau nofio, ac mae busnesau lleol sy’n rhentu padlfyrddau a chaiacau yn colli incwm. 

Y broblem ehangach
E.g. “Nid yw hyn yn fater lleol yn unig – mae’n genedlaethol. Mae carthion yn cael eu rhyddhau i ddyfroedd ledled y DU, mae pobl yn mynd yn sâl, ac mae cwmnïau dŵr yn gwobrwyo penaethiaid gyda bonysau yn lle datrys y broblem. 

Yr ateb
E.g. “Mae hyn yn gorfod newid. Mae angen tryloywder llwyr, monitro priodol ar orlifiadau carthion, ac atebolrwydd gwirioneddol i’r llygredwyr – fel y gall ein cymuned fwynhau dyfroedd glân a diogel eto. 

Ar ôl i chi gyflwyno’ch achos, gwrandewch. Gofynnwch gwestiynau clir i weld ble mae eich AS yn sefyll a chwiliwch am fan lle mae ei flaenoriaethau ef a’ch pryderon chi’n gorgyffwrdd. Nid oes unrhyw AS eisiau cael ei weld yn anwybyddu iechyd y cyhoedd na niweidio’r economi leol, felly defnyddiwch ffeithiau a straeon i gysylltu llygredd carthion â’r materion maent eisoes yn honni eu bod yn gofalu amdanynt. Cadwch y sgwrs yn bwyllog ac adeiladolmae hyn yn ymwneud â chreu cytundeb, nid dal rhywun allan. 

Mae llawer o gyfarfodydd ag ASau yn colli momentwm os nad yw’r gweithredu allweddol yn glir. Peidiwch â gadael i hynny ddigwydd – sicrhewch eich bod yn gorffen gyda cham nesaf pendant ac ymarferol. 

Canolbwyntiwch ar un cais penodol, boed hynny’n ysgrifennu at y cwmni dŵr lleol, codi’r mater yn y Senedd, neu bwyso ar reoleiddwyr am atebion. Gallwch adeiladu at gamau mwy beiddgar yn nes ymlaen. 

Fformiwleiddiwch eich cais mewn ffordd sy’n gwahodd ymateb – “Alla i gyfrif ar eich cefnogaeth?” – i greu atebolrwydd. A chofiwch adael y cais hwnnw ar bapur: nodyn byr neu e-bost yn crynhoi’r hyn a drafodwyd a’r hyn rydych yn gofyn amdano. Felly bydd gan eich AS gofnod i weithredu arno, ac mae gennych chi rywbeth i’w ddilyn i fyny. 

Angen cefnogaeth? Rydym wedi creu templed briffio AS y gallwch ei ddefnyddio i gyflwyno’ch cais a’r ffeithiau sy’n ei gefnogi. 

4. Camau Dilynol  

Efallai mai hwn yw’r cam pwysicaf, a’r un y mae’r rhan fwyaf o bobl yn anghofio amdano: camau dilynol. Os ydych am i’ch AS ddod yn gynghreiriad gwirioneddol yn y frwydr yn erbyn llygredd carthion, nid diwedd y daith yw’r cyfarfod cyntaf – ond y dechrau! 

Nid yw dilyn i fyny yn golygu eu bod yn cael eu poeni’n ddyddiol. Mae’n golygu cael cynllun clir i aros mewn cysylltiad, cadw’r pwysau, a sicrhau eu bod mewn gwirionedd yn gwneud yr hyn y maent wedi addo. 

Ar ddiwedd eich cyfarfod, gwnewch yn glir y byddwch yn gwirio ar y pwyntiau allweddol a drafodwyd. Gall amlder y cysylltiad â’ch AS ddibynnu ar y cyd-destun a pha mor frys yw eich cais, ond dyma ganllaw bras: 

  • 1 wythnos – Anfonwch e-bost diolch yn cadarnhau’r hyn a gytunwyd. 
  • 1 mis – Gwiriwch a oes camau wedi’u cymryd. 
  • 3 mis – Rhannwch ddiweddariadau neu dystiolaeth newydd a gweld a yw eich AS wedi siarad allan. 
  • 6 mis – Os yw wedi cyflawni, codwch y bar gyda chais newydd. Os nad yw wedi gwneud, cynyddu’r pwysau trwy’r cyfryngau, y cyfryngau cymdeithasol neu weithredu cymunedol. 

Defnyddiwch ein templed Cynllun Dilynol AS i greu eich cynllun eich hun i gadw’ch AS yn atebol!